#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-820

Teitl y ddeiseb: Peidiwch â chymryd Castell-nedd oddi ar y brif reilffordd.

Testun y ddeiseb:

Annwyl Weinidog(ion) y Llywodraeth, Rwyf am dynnu eich sylw at y newyddion diweddar sy’n awgrymu y bydd Castell-nedd yn cael ei thynnu oddi ar y brif reilffordd o Abertawe i Paddington Llundain. Nid wyf o blaid y penderfyniad hwn oherwydd credaf y byddai cymryd Castell-nedd oddi ar y brif reilffordd yn cael effaith andwyol ar economi ein tref, ac ar yr ymgais i’w hadfywio. Mae’r orsaf eisoes wedi mynd â’i phen iddi ac mae bellach yn ganolbwynt ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddai tynnu Castell-nedd oddi ar y brif linell yn gwneud dim ond gwaethygu’r problemau hyn. Byddai hefyd yn cael effaith negyddol ar y rhai sy’n cymudo ar y brif linell i fynd i’r gwaith, a fyddai’n golygu y byddai’n rhaid iddynt ddal trên ychwanegol i gysylltu ag Abertawe, Baglan neu Bort Talbot yn gyntaf. Mae ffigurau diweddar o waith ymchwil gan Jamie Evans, Cynghorydd Plaid Cymru dros Dde Castell-nedd, yn dangos: Roedd tua 830,000 o deithwyr yn defnyddio gorsaf drenau Castell-nedd bob blwyddyn, gan ei gwneud yr ail orsaf brysuraf ar ôl Abertawe yn sir hanesyddol Gorllewin Morgannwg, a’r brysuraf o blith y pum gorsaf yng Nghastell-nedd Port Talbot. Byddai’r cynlluniau i gael gwared â Chastell-nedd o’r brif linell yn golygu y byddai’n rhaid i gymudwyr sy’n teithio i Gaerdydd o Gastell-nedd ddal trên i Abertawe, Baglan neu Bort Talbot yn gyntaf, sy’n golygu cynnydd o ran y gost a’r amser a gymerir iddynt fynd nôl a blaen i’r gwaith. Ni fyddai pobl o Gastell-nedd, Pontardawe, Sgiwen, Glyn-nedd na Chwm Dulais yn cael unrhyw fudd o gwbl o’r “10 munud” o amser a arbedir ar deithiau rhwng Abertawe a Chaerdydd. Gofynnaf yn garedig i chi ail-ystyried y penderfyniad hwn.

                                                                                                                          

Cefndir

Mae ariannu a chynnal gwasanaethau a seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru yn ddarlun cymhleth. Er bod rheolaeth dros fasnachfraint gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru wedi’i datganoli drwy Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rheilffyrdd) 2018 yn ddiweddar, Llywodraeth y DU sy’n rheoli seilwaith y rheilffyrdd ar hyn o bryd.

 

Gwasanaethau rheilffyrdd

Caiff gwasanaethau i deithwyr ar y rheilffyrdd eu gweithredu drwy gytundebau masnachfraint, gyda’r cytundeb presennol ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau yn dod i ben fis Hydref 2018. Cafodd y Gorchymyn i ddatganoli pwerau dros y fasnachfraint hon ei gwneud ym mis Mai 2018 a rhoddodd Llywodraeth Cymru y fasnachfraint nesaf i gwmni KeolisAmey ar 23 Mai 2018, gan roi manylion ychwanegol am y cytundeb yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Mehefin 2018.

 

Seilwaith y rheilffyrdd

Yn wahanol i wasanaethau rheilffyrdd, Llywodraeth y DU sydd yn gyfrifol am seilwaith y rheilffyrdd o hyd. Yn wahanol i’r Alban, mae ariannu seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru yn fater sydd wedi’i gadw yn ôl ac er bod gan Weinidogion Cymru bwerau i fuddsoddi mewn seilwaith, nid yw Cymru yn cael dyraniad Grant Bloc ar gyfer hyn.

Mae cynllunio’r diwydiant rheilffyrdd ym Mhrydain yn digwydd mewn cyfnodau rheoli pum mlynedd. Cyn i bob cyfnod ddechrau, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn cyhoeddi dau ddatganiad statudol ar gyfer Cymru a Lloegr: Manyleb Allbwn Lefel Uchel (HLOS) sy’n nodi’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn disgwyl i’r diwydiant rheilffyrdd ei gyflawni o fewn y cyfnod rheoli pum mlynedd; a Datganiad o’r Cronfeydd sydd ar gael (SOFA).

Ar 20 Gorffennaf 2017, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol yr HLOS ar gyfer y cyfnod rheoli nesaf (2019-2024). Yn wahanol i’r HLOS ar gyfer cyfnodau rheoli blaenorol, gwnaeth y datganiad hwn ganolbwyntio ar redeg, cynnal ac adnewyddu y rheilffyrdd presennol heb ymrwymo i unrhyw brosiectau mawr newydd.  Y rheswm am hyn yw bod y ffordd y mae prosiectau gwella rheilffyrdd yn cael eu cynllunio gan Lywodraeth y DU yng Nghymru a Lloegr yn newid i ‘ddull piblinell’.

Ar yr un pryd ag y cyhoeddwyd yr HLOS, daeth i’r amlwg drwy adroddiadau yn y cyfryngau bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu canslo trydaneiddio’r Brif Linell Great Western rhwng Caerdydd ac Abertawe.

Ynghyd â’r cyhoeddiad hwn, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd ddatganiad i’r wasg yn amlinellu meysydd lle’r oedd wedi gofyn i Network Rail ddatblygu opsiynau ar gyfer rheilffyrdd Cymru. Roedd y datganiad hwn yn cynnwys gwella amseroedd teithio a chysylltiadau rhwng Abertawe a Chaerdydd, a rhwng de Cymru, Bryste a Llundain, yn ogystal â gwelliannau i orsafoedd yn Abertawe a’r cyffiniau, gan gynnwys edrych ar yr achos dros ddarpariaeth ychwanegol.

 

Opsiynau ar gyfer seilwaith y rheilffyrdd yn rhanbarth bae Abertawe

Mewn ymateb i ganslo trydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe, yn ogystal â chyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu ei chynigion ei hun ar gyfer seilwaith y rheilffyrdd yng ngogledd Cymru a’r de i’w cyflwyno i Lywodraeth y DU.

Yn ei ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 8 Mai ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Prif Linellau Rheilffordd Great Western a Gogledd Cymru, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

Rydym ni’n dibynnu ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid ar gyfer gwelliannau i rwydweithiau rheilffyrdd yng Nghymru, ond ni allwn sefyll ar yr ymylon yn cwyno; mae angen inni nodi ein disgwyliadau ar gyfer y rhwydwaith a bod yn glir ynghylch y manteision cymdeithasol ac economaidd a ragwelir.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod wedi gofyn i’r Athro Mark Barry weithio gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i ddatblygu dau gynnig, un ar gyfer gogledd Cymru a’r llall ar gyfer de Cymru. Aeth Ysgrifennydd y Cabinet ymlaen i ddweud:

Bydd y gwaith hwn yn llywio achosion busnes amlinellol strategol y cynlluniau unigol sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan Trafnidiaeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth, a diben y rhaglenni achosion busnes hyn yw sefydlu’r angen am fuddsoddiad a mynegi canlyniadau lefel uchel.

Yr Athro Barry oedd yn gyfrifol am ddatblygu’r Astudiaeth o Effaith Metro De Cymru (PDF 9.2MB) ac ymunodd â Llywodraeth Cymru i weithio ar ddatblygiad y prosiect cyn symud i Brifysgol Caerdydd.

Mae cynigion yr Athro Barry ar gyfer de Cymru yn cynnwys creu cynllun metro tebyg yn rhanbarth bae Abertawe. Mae sylw yn y cyfryngau wedi awgrymu mai un o’r opsiynau sy’n cael eu trafod gan yr Athro Barry yw cyfeirio’r brif linell o Bort Talbot yn syth i Abertawe, gan hepgor Castell-nedd.  Mae’r Athro Barry yn awgrymu y byddai hyn yn llwyddo i leihau amseroedd teithio rhwng Abertawe a Chaerdydd heb drydaneiddio’r linell.

Dengys adroddiadau yn y cyfryngau fod yr ymateb i’r cynigion gan y cyhoedd yng Nghastell-nedd wedi bod yn negyddol yn bennaf, ac mae Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi datgan yn gyhoeddus na fyddai’r awdurdod lleol yn cefnogi unrhyw gynnig i hepgor yr orsaf o’r brif linell

 

Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Trafodwyd safbwynt Llywodraeth Cymru yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mai 2018. Gofynnwyd i Ysgrifennydd y Cabinet am y mater hwn yn ystod ei ddatganiad ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer prif linellau rheilffordd Great Western a gogledd Cymru. Gofynnodd Adam Price AC i Ysgrifennydd y Cabinet:

A gaf i felly eich gwahodd i ddweud yn glir p’un a ydych yn diystyru unrhyw gynnig a fyddai’n dileu Castell-nedd o brif reilffordd y Great Western? Dywedodd eich Cwnsler Cyffredinol na fyddai’n cefnogi unrhyw gynnig fyddai’n cynnwys hwn. Mae ef yn diystyru’r syniad hwn. Allwch chi ddweud p’un a ydych chi’n diystyru hwn ar hyn o bryd, o gofio mai syniad yr Athro Barri ydoedd mewn gwirionedd?

Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Gallaf gadarnhau mai ein safbwynt yn dal i fod yw nad ydym yn edrych ar unrhyw ostyngiadau mewn gwasanaethau yng Nghymru, neu unrhyw ostyngiadau mewn hygyrchedd gorsafoedd, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Network Rail i’r perwyl hwnnw. Mae hynny’n cynnwys gorsaf Castell-nedd.

Nawr, os ydym ni’n edrych ar sut y gallwch chi wella amserau teithio tra’n cynnal gorsafoedd fel Castell-nedd ar y brif lein, gallwch chi edrych yn gyntaf ar wella gorsafoedd... Felly, cyn i chi hyd yn oed edrych ar brif elfennau seilwaith rheilffyrdd, dylech yn gyntaf edrych ar signalau, pwyntiau a chroesfannau, er mwyn gwella cyflymder y trenau sy’n teithio. Byddai hynny’n lleihau’r amserau teithio... cyn y byddai angen rhoi unrhyw ystyriaeth i drac neu orsafoedd. Felly, gallaf ddweud nad ydym ni’n edrych ar unrhyw ostyngiadau. Nid dim ond amddiffyn gorsafoedd a gwasanaethau a darpariaeth gwasanaethau i orsafoedd yng Nghymru yr ydym yn ei ddymuno; rydym ni’n dymuno eu gweld yn cael eu gwella, ac mae hynny’n cynnwys gorsaf Castell-nedd.

Yn ei lythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi:

There is a long list of options for improving journey times by rail for commuters and long-distance travellers in South Wales and we will be working with stakeholders to identify what these are so we can make the best possible case to the UK Government for funding these much-needed improvements.

Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi’n glir mai dim ond un o blith sawl awgrym gan yr Athro Barry oedd y cynnig i hepgor gorsaf Castell-nedd o’r brif linell, gan ychwanegu nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig penodol hwnnw. Mae’r llythyr yn mynd ymlaen i nodi:

[The Welsh Government] appreciate the importance of well-serviced rail stations to their communities and have been very clear in our position on Neath station, and indeed, many other stations in the area. We believe these stations shouldn’t just be protected but enhanced.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.